Cofnodion y cyfarfod diwethaf
27 Tachwedd 2013
12.30-13.15
Ystafell Gynhadledd C, Tŷ Hywel
YN BRESENNOL: |
||
|
||
Ken Skates AC (Cadeirydd) |
KS |
De Clwyd (Llafur Cymru) |
|
||
Jocelyn Davies AC |
JD |
Dwyrain De Cymru (Plaid Cymru) |
Rebecca Evans AC |
RE |
Canolbarth a Gorllewin Cymru (Llafur Cymru) |
Llyr Huws Gruffydd AC |
LlG |
Gogledd Cymru (Plaid Cymru) |
Eluned Parrott AC |
EP |
Canol De Cymru (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) |
|
||
Claire Stowell |
CS |
Staff cymorth (Rebecca Evans AC) |
|
||
Ruth Coombs |
RC |
Mind Cymru |
Katie Dalton (ysgrifennydd) |
KD |
Gofal |
Suzanne Duval |
SD |
Diverse Cymru |
Ewan Hilton |
EH |
Gofal |
Junaid Iqbal |
JI |
Hafal |
Peter Martin |
PM |
Hafal |
Martin Bell |
MB |
BACP |
Ursula Tebbet-Duffin |
UTD |
BACP |
Jennifer Azzopardi |
JA |
Sefydliad Richmond Malta |
CPGMH/NAW4/09 - Croeso ac ymddiheuriadau |
Camau i’w cymryd |
|
|
Croesawodd KD bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl.
DERBYNIWYD
Ymddiheuriadau gan aelodau absennol:
· Kirsty Williams AC · David Crepaz-Keay (Sefydliad Iechyd Meddwl) · Tony Smith (Journeys)
|
|
CPGMH/NAW4/10 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
Camau i’w cymryd |
|
KD
|
CYMERADWYWYD Cofnodion y cyfarfod diwethaf
TRAFODWYD
Materion yn codi o'r cofnodion
CPGMH/NAW4/08 Dadleuon gan Aelodau Unigol
Diolch i Llyr Huws Gruffydd, David Melding, Eluned Parrott a Ken Skates am eu cyfraniadau dewr a phwerus i ddadl y Cynulliad Cenedlaethol a'r blogiau Amser i Newid Cymru flwyddyn yn ôl.
|
|
CPGMH/NAW4/11 - Ethol cadeirydd newydd |
Camau i’w cymryd |
|
KD
|
Bydd Ken Skates AC yn rhoi'r gorau i fod yn Gadeirydd am iddo gael ei ddyrchafu'n Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn yr ad-drefnu diwethaf. Diolch i Ken am ei holl waith fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol a llongyfarchiadau ar ei ddyrchafiad i'r Llywodraeth.
Rebecca Evans AC yw'r unig Aelod Cynulliad i gynnig ei hun fel y Cadeirydd nesaf ac mae wedi'i henwebu gan David Rees AC, Julie James AC a Julie Morgan AC.
ETHOLWYD
Etholwyd Rebecca Evans AC yn Gadeirydd newydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl.
|
Bydd RE yn ysgrifennu at KS yn diolch iddo am ei waith fel y Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf |
CPGMH/NAW4/12 - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl |
Camau i’w cymryd |
|
EH
KD
EH
RC
EH
JI
PM
EH
JI |
TRAFODWYD
Gweithredu'r strategaeth
Mae adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl wedi'i ysgrifennu a chaiff ei gyhoeddi o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Mae dan embargo ar hyn o bryd ond unwaith y caiff ei wneud yn gyhoeddus, bydd Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru yn trafod y cynnwys ac yn llunio papur briffio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad i amlinellu'r materion allweddol.
Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn strategaeth drawslywodraethol ac felly dylai pob Gweinidog fod yn helpu i gyflawni ei hamcanion a sicrhau canlyniadau'r strategaeth.
Mae'n bwysig y caiff llwyddiant y strategaeth ei fesur.
Mae gennym bryderon ynghylch Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Daw'r contract ar gyfer darparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ben yn 2014 ond noda Law yn Llaw at Iechyd Meddwl y caiff y gwasanaeth ei ddarparu hyd at 2016.
Fforwm Cenedlaethol Gofalwyr a Defnyddwyr Gwasanaethau ac aelodau'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol
Yn wreiddiol gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru nodi dau ddefnyddiwr gwasanaethau a dau ofalwr i eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol. Gwrthododd Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru a phwysleisiodd y pwysigrwydd o gael system gadarn ac ystyrlon sy'n cefnogi'r gynrychiolaeth o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. O ganlyniad i hyn, mae fforwm cenedlaethol gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau wedi'i sefydlu ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr lleol a chenedlaethol. Bydd y fforwm hwn yn cefnogi pedwar aelod y bwrdd partneriaeth cenedlaethol o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Mae JI wedi'i ddewis gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr i fod yn un o ofalwyr y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol.
Mae'r fforwm cenedlaethol gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn gam cadarnhaol yn y cyfeiriad cywir. Yn y gorffennol mae'r gynrychiolaeth o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wedi bod yn docenistaidd. Roedd y broses gyfweld yn gadarnhaol iawn ac roedd yn dda cael panel o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn gwneud y penderfyniad.
Dylai pob bwrdd partneriaeth lleol gael o leiaf ddau ddefnyddiwr gwasanaethau a dau ofalwr yn aelodau, ond mae'r ymgysylltiad yn amrywio ledled Cymru. Nid yw rhai byrddau iechyd yn ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr mewn ffordd gefnogol ac ystyrlon.
Byddai'n gamgymeriad i fyrddau iechyd feddwl bod penodi defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn aelodau o fyrddau neu fforymau amrywiol yn ticio'r blwch ac yn golygu bod y gwaith wedi'i wneud. Mae cyfle mawr bellach i sicrhau ymgysylltiad a chyfranogiad llawn gyda nifer fawr o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Cafwyd trafodaethau ynghylch talu defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Mae papur wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar ar y mater hwn yng Nghaerdydd a'r Fro. Byddaf yn ei anfon at KD fel y gall ei anfon at yr aelodau.
|
Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru i drafod adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a llunio papur briffio i Aelodau'r Cynulliad
ACau i ofyn i'r Gweinidog Busnes am ddatganiad llafar ar adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
ACau i herio eu byrddau iechyd lleol ynghylch darparu gwasanaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
RE i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd ynghylch Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
RE i ysgrifennu at fyrddau iechyd lleol i holi ynghylch eu hymgysylltiad â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a'u cefnogaeth i gynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar y byrddau partneriaeth iechyd meddwl lleol
JI i anfon papur at KD. KD i'w anfon at yr aelodau. |
CPGMH/NAW4/13 - Y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) |
Camau i’w cymryd |
|
KD
PM
EH
RC
PM
JI |
TRAFODWYD
Gweithredu'r Mesur a Dyletswydd i adolygu
Mae'r Mesur wedi'i weithredu yn ei gamau amrywiol am dros flwyddyn bellach. Cafodd dyletswydd i adolygu ei gynnwys yn y Mesur ac mae'r broses hon wedi dechrau. Mae ORS wedi'i gomisiynu i wneud ymchwil ar y gwaith o weithredu'r Mesur a bydd sawl darn arall o waith yn cyfrannu at yr adolygiad. Mae grwpiau gorchwyl a gorffen hefyd wedi'u sefydlu i edrych ar Ran Un, Rhan Dau a Thri, a Rhan Pedwar. Mae pob grŵp wedi cyfarfod yn ddiweddar am y tro cyntaf. Yn ddiweddar mae Gofal wedi cynnal ei ail arolwg i brofiad pobl o wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol.
Mae Rhan Dau yn gyffredinol yn cael effaith gadarnhaol, er y cafwyd nifer o ganlyniadau anfwriadol sy'n cael effaith negyddol ar bobl sydd â salwch meddwl ac yr ydym yn eu codi gyda byrddau iechyd unigol.
Mae angen inni sicrhau y caiff y pethau cywir eu mesur i ddangos yr effaith ar iechyd meddwl a lles pobl. Mae 19 cynllun peilot wedi'u sefydlu i drafod sut i sgorio i ba raddau y cyrhaeddir y nodau.
Byddai'n ddefnyddiol gwybod os yw'r wyth agwedd ar fywyd yn cael eu cofnodi yn y cynlluniau gofal a thriniaeth yn Rhan Dau ac a yw rhai agweddau'n cael eu cofnodi fwy nag eraill.
Mae Rhan Dau o'r Mesur wedi bod ar waith am dros flwyddyn. Yn ei flwyddyn gyntaf, mae llwyth achosion y gwasanaeth iechyd meddwl gofal eilaidd wedi lleihau tua thraean ledled Cymru. Ar yr un pryd, mae nifer sylweddol uwch o bobl wedi'u rhyddhau o wasanaethau eilaidd. Mae angen i fyrddau iechyd ddarparu sicrwydd bod y prosesau asesu risg ac anghenion cywir wedi'u dilyn.
Rydym yn clywed nad yw'r ddeddfwriaeth berthnasol ar ryddhau pobl o wasanaethau bob amser yn cael ei dilyn. Ymddengys fod rhai pobl wedi'u rhyddhau'n amhriodol, ac mewn rhai achosion ymddengys fod hyn am nad yw'r darparwr gwasanaeth iechyd meddwl lleol am lunio cynlluniau gofal a thriniaeth. Mae cwestiynau'n codi ynghylch sut rydym yn rheoli iechyd meddwl a lles pobl mewn perthynas â gorbryder a diwygio lles.
|
KD i anfon y ddogfen Dyletswydd i Adolygu at yr ACau |
CPGMH/NAW4/14 - Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) |
|
|
RC
JI
PM
RE
|
TRAFODWYD
Cydberthynas â deddfwriaeth iechyd meddwl a'r effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl a gofalwyr.
Mae'n bwysig bod y Bil yn ystyried deddfwriaethau eraill. Er enghraifft, yr asesiadau a'r cynlluniau gofal a thriniaeth a geir ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Rydym hefyd yn awyddus i weld egwyddorion ar wyneb y Bil.
Mae un o'r gwelliannau'n ymwneud â phobl sy'n cael ôl-ofal Adran 117 drwy'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae'n tynnu'r bobl hyn o'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) - fel eu bod yn parhau o dan Fil Gofal y DU. Rydym yn poeni bod y gofynion o dan y Bil Gofal yn wannach na'r gofynion o dan y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) ac y bydd felly yn rhoi'r grŵp hwn o dan anfantais.
Mae'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn gam cadarnhaol ymlaen gan ei fod yn mynd y tu hwnt i hawliau deddfwriaeth bresennol y DU. Fodd bynnag, rydym yn poeni am y diffyg dyletswydd ar fyrddau iechyd. Ar gyfer cyfran fawr o ofalwyr iechyd meddwl, gwasanaethau iechyd, nid cymdeithasol, yw eu pwynt cyswllt cyntaf - ond nid oes dyletswydd gyfreithiol ar iechyd yn y Bil. Mae angen inni hefyd sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i hyrwyddo hawliau gofalwyr o dan y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.
Gwnaeth y Mesur Gofalwyr wahaniaeth mawr. Y broblem yw y caiff y dyletswyddau statudol a roddir ar fyrddau iechyd ar hyn o bryd eu colli o dan y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, a bydd hyn yn ddrwg i ofalwyr.
Codwyd hyn yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda'r Dirprwy Weinidog. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd yn ystyried y mater hwn eto. |
RC i anfon gwybodaeth am y gwelliant at ACau
RE i ddarllen trawsgrifiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog ar ran y grŵp trawsbleidiol
|
CPGMH/NAW4/15 - Cyfarfodydd yn y dyfodol |
|
|
KD
|
TRAFODWYD
Beth fyddai'n ddefnyddiol i ACau?
Cafwyd trafodaethau blaenorol gyda KS am y posibilrwydd o wahodd siaradwyr gwadd i gyflwyno ar ddechrau'r cyfarfod - fel y Gweinidog Iechyd, yr ymchwilwyr sy'n edrych ar fynediad at therapïau seicolegol, Stonewall Cymru.
CYTUNWYD
Byddai'n ddefnyddiol/gwerthfawr · Gwahodd siaradwyr ar faterion penodol. · Trafod capasiti a mynediad at therapïau siarad. · Nodi'r materion sy'n codi o adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. · Cynnwys gofalwyr ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod. · Trefnu cyfleoedd i gyfarfod yn uniongyrchol â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Pennu dyddiadau cyfarfodydd ymlaen llaw
CYTUNWYD
· Cynnal o leiaf dri chyfarfod y flwyddyn. · Pennu dyddiadau cyfarfodydd ymlaen llaw. · Ystyried dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol er mwyn cael adborth o'r cyfarfodydd hyn.
|
RE a KD i drefnu dyddiadau ymlaen llaw ar gyfer cyfarfodydd 2014
|
|
|
|
RE
|
Diolchodd Rebecca Evans AC i bawb am ddod. |
|